Â’n pythefnos yn Llundain eisoes wedi dod i ben, does wybod i ble’r aeth yr amser! Fe gawsom ni amser penigamp yn Stiwdios Riverside – pythefnos o sioeau mewn ystafelloedd llawn dop, staff hyfryd a chyfle hefyd i ddweud helo wrth ambell i seren …
Daeth llawer iawn o aelodau’r wasg i weld ein noson agoriadol. Gallwch weld yr adolygiadau o Chelsea Hotel ar ein tudalen ‘Y Wasg’ ac mae’r lluniau godidog a dynnwyd o’r cynhyrchiad fan hyn.
Rydym hefyd wedi bod yn saethu fersiwn ffilm o Chelsea Hotel, sy’n cael ei golygu ar hyn o bryd. Ac fe ddathlodd y cwmni mewn steil ar ôl i’r cyfnod ffilmio ddod i ben, fe alla i’ch sicrhau chi!
Rydym wedi derbyn ambell olygfa ardderchog hefyd ar gyfer ein cyfres Chelsea Views – ewch i #chelseaviews ar Twitter i’w gweld nhw ac i ychwanegu eich golygfa eich hun at y casgliad.
Byddwn yn Salford yr wythnos nesaf, felly mae yna gyfle o hyd i chi weld Chelsea Hotel – gallwch weld y dyddiadau sydd ar ôl ar ein taith fan hyn.