Rydym yn falch o gyhoeddi bod cynhyrchiad Earthfall, Chelsea Hotel, wedi’i enwebu am ddim llai na thair gwobr yng ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru yn ddiweddarach y mis hwn.
Enwebwyd Chelsea Hotel yn y categorïau canlynol:
Cerddoriaeth a Sain
Digidol ac Ar-lein
Cynhyrchiad Dawns ar Raddfa Fechan
Rydym yn falch iawn o gael ein henwebu ochr yn ochr â rhai o enwau mwyaf byd perfformio Cymru, cwmnïau fel Dirty Protest, Gabblebabble, Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales.
“Fe allai Earthfall gyflwyno dosbarth meistr ar ddefnyddio technolegau newydd er mwyn ategu perfformiadau byw i genhedlaeth newydd o wneuthurwyr theatr.”
Adam Somerset,
http://www.theatre-wales.co.uk/reviews/reviews_details.asp?reviewID=3138
Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn Seremoni Wobrwyo yn Sherman Cymru ar Ionawr y 25ain. Edrychwn ymlaen at weld pob un yno – a phob lwc i bob un o’r cwmnïau a enwebwyd.