Dyddiad: Dydd Mercher 5 Mawrth
Dydd Mercher 12 Mawrth
Dydd Mercher 19 Mawrth
Dydd Mercher 26 Mawrth
Amser: 10am tan 1pm
Lleoliad: Y Stiwdio Ddawns, Canolfan Gelfyddydau The Gate, Stryd Keppoch, Caerdydd CF24 3JW
Addasrwydd: Gweithwyr proffesiynol byd dawns, ymarferwyr dawns, graddedigion ac israddedigion dawns ar eu blwyddyn olaf
Dosbarthiadau: Nod y Dosbarth Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) hwn yw datblygu eich proffesiynoldeb personol a datblygu eich gyrfa yn y celfyddydau perfformio.
Mae Earthfall yn cynnig gweithdai DPP RHAD AC AM DDIM sydd yn addas ar gyfer pob un sy’n ymddiddori mewn archwilio syniadau, dulliau ac arddulliau newydd a’r rheiny sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau corfforol, creadigol a choreograffig unigol.
Fe gewch chi gyfle i archwilio arddulliau symud unigryw Earthfall trwy gyfrwng gwaith cyswllt, gwaith byrfyfyr, gwaith partner ac astudiaethau creadigol; fe gewch chi gyfle i archwilio eich creadigrwydd eich hun yng nghyd-destun repertoire a methodolegau Earthfall a bydd yna gyfle hefyd i drafod, archwilio a chadarnhau sawl agwedd ar eich gyrfa gyda’n tiwtoriaid proffesiynol, profiadol.
Mae Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn fodd o ddatblygu a dyfnhau eich gwybodaeth ac o ddysgu sut i gyrraedd eich llawn botensial gyrfaol.
I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle ar y cwrs, cysylltwch â:
Helen Di Duca, Swyddog Addysg a Chyfranogiad (t) 02920 221 314 (e) education@earthfall.org.uk
DALIER SYLW: Dim ond 18 o lefydd fydd ar gael ar gyfer pob gweithdy. O’r herwydd byddwn yn dyrannu llefydd ar sail y cyntaf i’r feli gaiff falu.