Yn benllanw i’n rhaglen o weithdai datblygiad proffesiynol parhaus yn 2014, rydym yn cynnig penwythnos dwys i ymarferwyr dawns a theatr gorfforol, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ac ar y cyd â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Bydd y sesiynau’n cael eu harwain gan y Cyfarwyddwr Artistig, Jessica Cohen, yng nghwmni perfformwyr Earthfall, Alex Marshall Parsons (Chelsea Hotel) a Lara Ward (Chelsea Hotel, The Factory, Gig, Gravitas)
Bydd y cyfle hwn yn addas ar gyfer y rheiny sy’n awyddus i archwilio syniadau, dulliau ac arddulliau newydd ac i ddatblygu eu sgiliau corfforol, creadigol a choreograffig unigol.
Dros y penwythnos, fe gewch gyfle i archwilio eich creadigrwydd eich hun yng nghyd-destun repertoire a methodoleg Earthfall, gan hybu a datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol.
Dyddiad: Dydd Sadwrn 16 a Dydd Sul 17 Awst, 2014
Lleoliad: Stiwdio Man Gwyn, Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru, Stryd Pierhead, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF10 4PH
Amseroedd:
Cyrraedd: 9:30-10:00
Dosbarth: 10.00-13:00
Cinio: 13:00-13:45
Dosbarth: 13:45-16:30
* Sesiwn Rannu ar ddydd Sul: 16:30 – 17.00
(Cyfle i rannu eich gwaith, eich prosesau a’ch canlyniadau creadigol, gyda chynulleidfa ddethol)
Addasrwydd: gweithwyr proffesiynol byd dawns / theatr gorfforol, ymarferwyr, graddedigion a myfyrwyr blwyddyn olaf
Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ar y cwrs, cysylltwch â:
Helen Di Duca
education@earthfall.org.uk
Swyddog Addysg a Cyfranogiad