Cyflwyno Gill Banks
Mae Gill Banks yn artist talentog sy’n gweithio ar archif cynhwysfawr Earthfall o ddelweddau, ffilm, dawns, nodiadau, lluniau, straeon a chyfweliadau gyda’r Cyfarwyddwyr Artistig, Jessica Cohen a Jim Ennis.
Mae gan Earthfall record hir o weithio ag Artistiaid Gweledol o Brifysgol De Cymru (Prifysgol Morgannwg gynt) ac eleni rydym yn hynod falch o groesawu’r ardderchog Gill Banks atom fel artist preswyl. (Gweler The Factory / At Swim Two Boys)
Â’r cwmni’n dathlu 25 oed eleni, roeddem o’r farn y byddai’n beth gwerth chweil gofyn i Gill astudio hanes Earthfall a chreu darn o waith celfyddydol yn seiliedig ar yr archifau hynny. Treuliodd Gill gryn amser yn ymwneud â fideos, delweddau, llyfrau nodiadau, straeon, a hanesion personol. Cynhaliodd gyfweliadau hefyd â’n Cyfarwyddwyr Artistig, Jessica Cohen a Jim Ennis. Mae’r cyfnod preswyl yn gyfnod o dri mis, rhwng Rhagfyr 2014 a Mawrth 2015, ac fe fydd yn dod i ben â chyflwyniad o waith Gill ar y cyfryngau digidol. Mae yna botensial hefyd am arddangosfa gorfforol.
Yn ei geiriau ei hun:
“Dw i’n gyndyn i fy nisgrifio fy hun fel myfyriwr hŷn. Mae fy ngwaith celfyddydol yn bell o fod yn aeddfed! Ond dw i’n rhydd o’r diwedd i wneud yr hyn a ddymunaf – dw i’n fyfyriwr o’r diwedd – ac fe ymunais â Phrifysgol De Cymru yn ystod ei blwyddyn gyntaf. Felly, dyma ni’n dau, y Brifysgol a fi, yn hen a newydd ar yr un pryd.”
Gallwch ddysgu mwy am Gill a’i gwaith ar ei gwe-fan: www.gillbanks.co neu gallwch ei dilyn ar Twitter @gillbanksart.