Mae hi’n gyfnod prysur ar hyn o bryd i’n tîm addysg – rydym yn cynnal gweithdai, perfformiadau academaidd terfynol a chyfnodau preswyl.
Arweinwyr Modiwl Dawns BA
Eleni, mae Earthfall yn arwain modiwl ‘Dawns a Ffurfiau Celfyddydol Eraill’ ar gwrs BA Dawns Prifysgol Y Drindod Dewi Sant. Mae perfformiad terfynol y cwrs yn archwilio themâu fel hunaniaeth a hunan-bwysigrwydd mewn perfformiad naratif lled-fywgraffyddol; perfformir Dredged Memories and Anarchic Dreams yn rhan o noswaith ‘Ignite’ yn Y Ffwrnes ar ddydd Gwener 19 Mehefin.
Cyfnod Preswyl ‘Arts Active’
Bydd Earthfall yn cyflwyno cyfnod preswyl wythnos o hyd gyda Arts Active yn y New Theatre, a pherfformiad ar ddydd Sadwrn 8 Awst. Mae ‘Ladder’ yn noson afieithus, gyffrous a difyr o ddawnsio, drama, cerddoriaeth a sgiliau. Bydd yn arddangos doniau rhai o artistiaid ifainc mwyaf addawol Caerdydd mewn sioe amrywiaeth dra gwahanol, wrth i’r grŵp gael ei annog i anelu hyd yn oed yn uwch.
Wedi’i fwriadu ar gyfer pobl ifainc 14-25 oed, mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifainc ag amrywiaeth o dalentau weithio gydag Earthfall ac i feithrin sgiliau newydd. Os hoffech chi gymryd rhan yn ‘Ladder’, cysylltwch os gwelwch yn dda â bharris@cardiff.gov.uk neu ewch i www.artsactive.org.uk/ladder ladder.
Bydd Earthfall yn cyflwyno dosbarth meistr i fyfyrwyr drama 3edd flwyddyn Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn rhan o’r modiwl Astudiaethau Cyd-destunol a Phroffesiynol. Mae’r gweithdy hwn wedi’i deilwra’n benodol at y cwrs actio ac yn ffrwyth perthynas barhaus Earthfall a’r Coleg. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y Coleg Cerdd a Drama fan hyn.
CPD Opportunities
Cyn hir, byddwn yn rhyddhau gwybodaeth am gyfleoedd DPP newydd. Bydd y rhain yn gyfuniad o weithdai a chyrsiau dwys ac fe gânt eu cynnig yn rhad ac am ddim i weithwyr proffesiynol newydd, graddedigion diweddar a phobl broffesiynol byd dawns. Yn ddilyniant i sesiynau y llynedd, byddwn yn cynnig cwrs dwys wythnos o hyd gan canolbwyntio’n arbennig ar gydweithio â cherddoriaeth fyw. Os hoffech chi nodi eich diddordeb yn y cyrsiau hyn, gallwch ymuno â’n rhestr bostio, fan hyn.