Dynamic Dance Music and Film

Earthfall

Bakkus

Bakkus oedd trydydd cyd-gynhyrchiad Earthfall gyda Chorea o Wlad Pwyl – sêr ‘new wave’ y theatr Bwylaidd.

Roedd y gwaith yn archwiliad o ffanatigiaeth, cwltiaeth a chrefyddoldeb pybyr ac yn tynnu’n bennaf ar waith Euripides, The Bacchae.

Gosodwyd Bakkus mewn seler clwb nos ac roedd yn gymysgedd feddwol o ffilm, cerddoriaeth wreiddiol, testun, delweddau a symudiadau corfforol pwerus – ynghyd â gwaith corawl anhygoel Chorea, sy’n deillio o ffynonellau cerddorol traddodiadol a hynafol. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Paul Wygens a Roger Mills ac roedd y dylanwadau mwy cyfoes yn fodd o gyfuno blŵs New Orleans, jazz ‘indie’ Nick Cave-aidd a chaneuon Bwlgaraidd traddodiadol Elina Toneva.

Roedd y perfformiad yn brofiad dwys, nerthol a synhwyraidd wrth i goreograffi deinamig Earthfall, ffilm a symudiadau anarchaidd drwytho symudiadau’r côr drwy’r gofod perfformio.

Aeth Bakkus ar daith ledled Cymru a Gwlad Pwyl.

Earthfall BAKKUS Brochure Revised

Audio

Back To Top »