Dynamic Dance Music and Film

Earthfall

Chelsea Hotel

Diolch am ‘Sieo Mewn’ i #ChelseaHotel!

Mae cynhyrchiad  Earthfall wedi mynd ar daith yng Nghymru a Lloegr y Gwanwyn hwn.

Bydd Earthfall yn datgelu barddoniaeth a hanes trasicomig y gwesty eiconig yn Efrog Newydd a’i le yn ein diwylliant cyfoes. Taith voyeuraidd trwy fywydau, cariadau a dyheadau ei drigolion.

Mae Earthfall, y cwmni dawns aml-wobrwyol, yn parhau ar ei daith ddiwylliannol drwy Efrog Newydd ac yn dilyn ôl traed Warhol a Kerouac, Dylan Thomas a Patti Smith, â chynhyrchiad lle mae straeon, gwir a gau, yn cyd-chwarae â dawnsio radical, cerddoriaeth fyw a ffilm, er mwyn dal rhai o’r eiliadau pwysicaf yn hanes y ‘Mecca’ hwn i artistiaid rebelgar.

Dewch i’r ‘Chelsea Hotel’, lle mae gan bob ystafell ei hanes.

Cefndir

Mae gan westy’r Chelsea Hotel, neu’r Hotel Chelsea, hanes cyfoethog a diddorol ac fe’i ystyrir yn un o fannau mwyaf nodedig dinas Efrog Newydd. Adeiladwyd y gwesty yn yr 1880au yn rhan o’r ‘Hubert Home Clubs’ (tai ar gyfer artistiaid) ac roedd yn llwyddiant ysgubol, cyn i ddirywiad yr economi arwain at fethdaliad y Chelsea Hotel. Cafodd ei ailagor yn ddiweddarach yn 1905 fel gwesty cyn methdaliad arall. Yn 1939, dechreuodd y gwesty flodeuo fel canolbwynt ar gyfer gweithgarwch artistig ac roedd yn gartref i artistiaid ac unigolion o bedwar ban, rhai’n aros am ddyddiau, eraill am flynyddoedd. Mae Bob Dylan, Patti Smith, Jeff Beck, Rufus Wainwright, y Grateful Dead, Alice Cooper a cherddorion eraill di-ri wedi aros yno. Mae’r cyfarwyddwyr a’r actorion nodedig a fu yno’n cynnwys Stanley Kubrick, Jonas Mekas, Dennis Hopper a Jane Fonda. Ac roedd Mark Twain, Arthur C Clarke, Arnold Weinstein, Leonard Cohen, Arthur Miller, Jack Kerouac, Quentin Crisp a Dylan Thomas yn ddim ond rhai o’i drigolion llenyddol.

Yn 2011, gwerthwyd y gwesty i ddatblygwyr am $80 miliwn. Ers hynny, mae’r adeiladwyr wedi symud i mewn – ond nid pob un o’r trigolion sydd wedi symud allan. Ers hynny, bu’n frwydr barhaol rhwng trigolion penderfynol ac adeiladwyr rhwystredig. Gallwch gadw golwg ar y datblygiadau diweddaraf ar flog y preswylwyrLiving with Legends: The Last Outpost of Bohemia.

Caiff y plethwaith cyfoethog hwn o fywydau artistig ei adlewyrchu yng nghymysgedd Earthfall o ddawns, cerddoriaeth fyw a deunydd ffilm.

 

Photo

Chelsea Hotel Ffoto

Gweler y brif ddelwedd a lluniau o’r broses ymarfer yn yr oriel hon. ©Julian Castaldi a ©Hugo Glendinning ©Earthfall 

REVIEWS AND COMMENTS – summary

Video

[Youtube_Channel_Gallery feed=”playlist” user=”PLQjpn4LcaBRGUbbH7MVtAnPXrU0Vg3PbB” key=”AIzaSyBVM2RGzXHf7QTyNobp5m0yfMrz6PPTuoE” maxitems=”16″ thumb_columns_ld=”2″ title=”1″ promotion=”0″ link=”0″ thumb_columns_phones=”1″ thumb_columns_md=”3″ thumb_columns_ld=”3″ thumb_pagination=”0″]

Audio

[soundcloud id=’5091427′ format=’set’]

Back To Top »