Derbyniodd Earthfall gomisiwn gan Ŵyl Blwyddyn Lenyddiaeth y DG a gwahodd yr awdur Gwyddelig, Jamie O’Neill, i gydweithio ar ‘Forever and Ever’.
Seiliwyd y gwaith ar ddigwyddiad allweddol ym mywyd aelod o’r cwmni, Margarida Morini. Fel merch yn ei harddegau, cymrodd ran yn y gwrthdystiadau yn erbyn y gyfundrefn greulon ym Mrasil y 1970au. Yn ystod un o’r protestiadau hyn, cafodd ei ffrind gorau, Anna Soares, ei chipio a’i dal yn wystl. Diflannodd am gyfnod o dair blynedd ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd ei harteithio a’i pharlysu. Aeth Cohen ac Ennis ati i archwilio emosiwn a chorfforoldeb caethiwed, gormes a thosturi wrth iddyn nhw lwyfannu cyfarfod rhwng y ddwy wraig a’r dyn a gyflawnodd yr erchyllterau hyn.
Aeth y gwaith ar daith ledled y DG ac Ewrop, gan gynnwys i Ŵyl Theatre Confrontations, Gwlad Pwyl, ac fe’i cefnogwyd gan Amnest Rhyngwladol, a gymerodd ran gyda’r cwmni mewn trafodaethau cyn ac ar ôl y perfformiad.
[Youtube_Channel_Gallery feed=”playlist” user=”PLQjpn4LcaBRGfzf4RbKzJT_4EMvRPUsQz” key=”AIzaSyBVM2RGzXHf7QTyNobp5m0yfMrz6PPTuoE” maxitems=”16″ thumb_columns_ld=”2″ title=”1″ promotion=”0″ link=”0″ thumb_columns_phones=”1″ thumb_columns_md=”3″ thumb_columns_ld=”3″ thumb_pagination=”0″]