Ar ôl llwyddiant ysgubol ‘i and i’ a ‘The Intimate Jig’, comisiynwyd Earthfall gan Ŵyl Ryngwladol Caerdydd i greu gwaith a fyddai’n ddathliad o Gyfraniad Menywod i’r Celfyddydau. Perfformiwyd y gwaith hwn i ganolfannau llawnion ar set yn cynnwys 4.5 tunnell o lo yn y Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd. Roedd ‘Girl Standing by the Lake’ yn seiliedig ar beintiadau’r artist o Gymru, Gwen John, nofel glasurol Kobo Abe, The Woman in the Dunes, a gwaith y gwystl, Brian Keenan, An Evil Cradling. Roedd y coreograffi yn ddyfeisgar a beiddgar wrth i’r perfformwyr drin themâu o gaethiwed, dianc, ofn ac awydd, ac ymgolli mewn delweddau pryfoclyd a barddonol, cerddoriaeth fyw a sŵn cyrff a thraed ar lo.
[Youtube_Channel_Gallery feed=”playlist” user=”PLQjpn4LcaBRH8tQNCqiAMTxvulfocFBgo” key=”AIzaSyBVM2RGzXHf7QTyNobp5m0yfMrz6PPTuoE” maxitems=”16″ thumb_columns_ld=”2″ title=”1″ promotion=”0″ link=”0″ thumb_columns_phones=”1″ thumb_columns_md=”3″ thumb_columns_ld=”3″ thumb_pagination=”0″]