Dynamic Dance Music and Film

Earthfall

Running Away With The Hairdresser

O adolygiad ar y BBC:

‘Rhowch record Portishead, Sinatra neu Chris Isaak i chwarae, tynnwch eich trilby dros eich llygaid ac edrychwch tua’r pellter. R’ych chi wedi’ch amgylchynu gan olau sodiwm pŵl y lampau ar stryd yn y ddinas fudr fawr. Rhywle yn y pellter, mae seiren yr heddlu’n wylo fel hen ganwr blŵs. Mae eich .38 yn eich llaw wrth i chi feddwl am y ‘dame’ wallgo a’r ‘bum’ sy’n gariad iddi erbyn hyn. Uydy’r ddelwedd yn gyfarwydd? Dyna’r teimlad a ddaw o wylio cynhyrchiad Earthfall ‘Running Away with the Hairdresser’. Gwaith ‘noir’, sy’n cydnabod dylanwad Tarantino neu ffilmiau’r brodyr Coen … ac yn waith theatrig rhyfeddol … ‘

Mewn byd delweddol a ymdebygai i fyd yr artist Edward Hopper, roedd Running Away with the Hairdresser yn fodd o archwilio breuder perthnasau a chyfarfyddiadau rhwng cymeriadau sy’n ceisio dianc i rywle gwell. Daeth syniad gwreiddiol y cyfarwyddwyr Jessica Cohen a Jim Ennis o waith yr arlunydd Cymreig Kevin Sinnott o’r un enw.  Aeth Earthfall ati i archwilio nifer o arddulliau symud gwahanol, gan gynnwys eu trosiad nhw o’r waltz yn rhywbeth eithafol, gwyllt, yn llawn symud a dawnsio tap! Ymunodd yr aml-offerynnwr a’r cynhyrchydd recordiau o Gaerdydd, Frank Naughton, â Jon Wygens i greu trac sain byw a oedd yn cynnwys dylanwadau Ska, Chanson, Cajun a chlasurol – yn wir, roedd yna gyfle i gydweithio ag aelodau o Gerddorfa Gymreig y BBC. Roedd gan dechnegydd sain Earthfall, Felix Otaola, rôl ddeuol hefyd – roedd e’n gyfrifol am drefnu’r sain ac yn ymddangos yn y cynhyrchiad fel canwr. Roedd Gerald Tyler yn gynllunydd ar y gwaith yn ogystal â bod yn berfformiwr.

Aeth Running Away with the Hairdresser ar daith ledled y DG a thir mawr Ewrop. (2004)

Audio

Back To Top »