Roedd gosodiad theatrig cyntaf yr artist a’r dylunydd theatr, Mike Brookes, ar ran Earthfall yn rhan o bumed cynhyrchiad y cwmni, The Intimate Jig. Roedd cadeiriau 3 metr o uchder ar y llwyfan ac roedd hi’n bosib eu newid yn strwythurau amrywiol drwy gydol y perfformiad. Roedd yna hefyd goridorau o wair a diferion cyson o ddŵr i mewn i ddysgl fetel fawr o fflamau. Daeth yr holl elfennau hyn at ei gilydd yn The Intimate Jig, ac roedd yr holl berfformwyr yn chwarae offerynnau cerddorol, yn canu ac yn llefaru testun; tafluniwyd ffilm Super 8 ar fas dwbwl wedi’i addasu ac roedd Kim Burton o’r band pync gwerin enwog 3 Mustaphas 3 yn gyfrifol am gyfansoddi a chwarae’r gerddoriaeth ar y cyd â Belinda Sykes ac ensemble Earthfall. Defnyddiodd Jim Ennis a Jessica Cohen chwedl Blodeuwedd a gweithiau gan Flaubert a Chagall yn sail ar gyfer y gwahanol naratifau yn y gwaith. Roedd llawer o’r symudiad yn seiliedig ar addasiadau o ddawnsfeydd mynydd o Ogledd Affrica, ac yn ganlyniad i deithiau ymchwil i Fynyddoedd Atlas gan Cohen a Sykes.
Aeth y gwaith ar daith am ddwy flynedd ledled Ewrop – a derbyn canmoliaeth uchel – ac roedd yna ymddangosiadau niferus mewn gwyliau mawrion ynghyd ag addasiadau ffilm ar gyfer Channel 4 ac S4C.
[Youtube_Channel_Gallery feed=”playlist” user=”PLQjpn4LcaBRFDZhrSg3AwkyD8MWXEbIId” key=”AIzaSyBVM2RGzXHf7QTyNobp5m0yfMrz6PPTuoE” maxitems=”16″ thumb_columns_ld=”2″ title=”1″ promotion=”0″ link=”0″ thumb_columns_phones=”1″ thumb_columns_md=”3″ thumb_columns_ld=”3″ thumb_pagination=”0″]