Yn ystod 2003 a 2004, creodd Earthfall waith arall (yn ogystal â chwblhau gwaith mentora) ar ran y cwmni Pwylaidd, Chorea. Aeth y Cyfarwyddwyr Artistig, Jessica Cohen a Jim Ennis, ynghyd â’r perfformiwr, Cai Tomos, ar nifer o deithiau i Wlad Pwyl ac fe ddaeth unigolion o Chorea i ymarfer gyda chyfarwyddwyr Earthfall yng Nghymru hefyd. Canlyniad proses theatrig gydweithredol unigryw oedd After the Birds.
Archwiliodd Earthfall a Chorea y gwrthdrawiad rhwng hen ganu corawl Groeg, cerddoriaeth gyfoes a choreograffi dinesig trwy gyfrwng côr, cerddoriaeth fyw a ffilm. Roedd y perfformiad yn gyfuniad o elfennau radical a addaswyd o gomedi Aristophanes, The Birds, ac roedd y canlyniad yn gymysgedd wych o hiwmor a phathos
Cafodd y gwaith ei gyflwyno i gynulleidfaoedd a oedd yn eistedd y naill ochr a’r llall i’r gofod perfformio ac fe werthwyd yr holl docynnau ar gyfer sioeau mewn gwyliau mawrion ledled Cymru a Gwlad Pwyl. MaeAfter the Birds wedi cael ei berfformio bob blwyddyn ers creu’r gwaith, gan gynnwys yng Ngŵyl Theatr Ryngwladol Warsaw ym mis Rhagfyr 2008, yn Theatr La Mama yn Efrog Newydd yn ystod Hydref 2010, ac fe gyflwynir y sioe yn rheolaidd yng ngŵyl RETRO/PER/SPECTIVES yn Ludz, Gwlad Pwyl.
Cyflwynwyd perfformiadau hefyd yng Nghanolfan Meyerhold ym Moscow, Rwsia, yn 2011 ac yn yr ŵyl theatr fwyaf, Bharat Rang Mahotsav yn New Delhi yn 2013 (cliciwch fan hyn am fwy o wybodaeth).
Mae After the Birds yn parhau i fod yn rhan bwysig o bartneriaeth barhaol Earthfall a Theatr Chorea.
[Youtube_Channel_Gallery feed=”playlist” user=”PLQjpn4LcaBRF8nG_x7vSkHiLxq5NPfsm-” videowidth=”775″ ratio=”16×9″ theme=”dark” color=”white” autoplay=”0″ rel=”0″ showinfo=”0″ maxitems=”16″ thumbwidth=”258″ thumbratio=”16×9″ thumbcolumns=”3″ title=”1″ description=”0″ thumbnail_alignment=”top” descriptionwordsnumber=”6″ link=”1″]