Yn 2012, Earthfall oedd y sefydliad celfyddydol cyntaf i ennill un o wobrau nodedig Canmol, y Sefydliad Marchnata Siartredig.
Ar ddydd Gwener, 5 Hydref 2012, cafodd Earthfall yr anrhydedd o dderbyn Gwobr Canmol Cymru am yr ymgyrch farchnata ar gyfer At Swim Two Boys. Mae Gwobrau Canmol yn ddathliad o’r ymgyrchoedd marchnata gorau yng Nghymru. Llwyddiant Earthfall oedd y tro cyntaf yn holl hanes y gwobrau i sefydliad celfyddydol ennill prif wobr.
Mae swyddfeydd Earthfall yn Chapter, Caerdydd, ac mae’r cwmni’n derbyn nawdd refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Roedd y cynhyrchiad ei hun yn gomisiwn ar y cyd â Theatr Brycheiniog. Roedd cynrychiolwyr y tri sefydliad hwn yn bresennol i rannu’r cyffro pan gyhoeddwyd taw Earthfall oedd enillwyr y wobr.
Cafodd y wobr ei chodi gan Swyddog Marchnata Earthfall, Lewis Gwyther. Dywedodd ef, “Roeddem ni’n falch iawn o ennill y wobr. Roedd yn adlewyrchiad ac yn gydnabyddiaeth o waith ac ymdrech holl aelodau tîm yr ymgyrch. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn hefyd i Nelmes Design a chwmni PR Arthur Leone am fod yn rhan o’r tîm a greodd yr ymgyrch nodedig hon.”
Arweiniodd ymgyrch farchnata ‘At Swim Two Boys’ at dreblu nifer y bobl a ddaeth i weld cynyrchiadau, o gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol. Llwyddwyd hefyd i fwy na dyblu’r targedau ariannol. Yn ogystal â hyn, llwyddodd Earthfall i gyflawni rhywbeth na wnaeth yr un cwmni dawns o Gymru yn y gorffennol, sef sicrhau rhediad o dair wythnos yn Llundain a gwerthu pob tocyn cyn y noson agoriadol.
Llwyddodd yr ymgyrch i gynyddu proffil y cwmni trwy ddenu sylw yn y cyfryngau cenedlaethol ac fe aeth y cynhyrchiad ar daith i fwy o leoedd yn y DG nag unrhyw gwmni dawns Cymreig cyn hynny. Dyblwyd nifer y perfformiadau ac roedd yna ddeg gwaith yn fwy o berfformiadau llawn nag yn ystod y daith flaenorol.
Ychwanegodd Richard Houdmont, Cyfarwyddwr y Sefydliad Marchnata Siartredig yng Nghymru:
“Nod y Sefydliad yw gosod safonau a dathlu rhagoriaeth yn y diwydiant marchnata ac mae Gwobrau Canmol yn helpu’r rheiny sy’n cystadlu i fesur eu gwaith yn erbyn y goreuon yn y wlad – mae hynny’n sicrhau bod yr arferion gwaith gorau yn cael eu hybu ledled y diwydiant yng Nghymru.”
“Rydym yn falch iawn o gefnogi’r gwobrau hyn sy’n caniatáu i’r goreuon ym myd marchnata ennill cydnabyddiaeth haeddiannol am eu gwaith.”
2013
2011/12
2010
2009
2008/09
2007
2004-2007
2004
2004
2003
2003
2003
2001
1999 - 2000
1997 - 1999
1995 - 1997
1994 - 1996
1992 - 1993
1991 - 1992
1990 + 1994
1989 - 1990
1989 - 1990
2002