India 2013
Perfformiodd Earthfall a Theatr CHOREA eu cynhyrchiad cydweithredol ‘After the Birds’ yn New Delhi yn India ar ddydd Mawrth, 8 Ionawr, am 8:30pm, yng ngŵyl theatr fwyaf Asia. Dilynwyd y perfformiad gan sgwrs â’r cyfarwyddwr ar ddydd Mercher, 9 Ionawr, yn yr Ysgol Ddrama Genedlaethol.
Sefydlwyd Bharat Rang Mahotsav ddegawd yn ôl gan yr Ysgol Ddrama Genedlaethol i hybu twf a datblygiad theatrig ledled India. Dechreuodd yr ŵyl fel gŵyl ar gyfer arddangos y gweithiau theatr mwyaf creadigol yn India – ond datblygodd ers hynny yn fenter ryngwladol sy’n cyflwyno cwmnïau theatr o bedwar ban byd. Hi bellach yw’r ŵyl theatr fwyaf yn Asia.
Mae ‘After the Birds’ yn ganlyniad i brosiect theatrig rhyngwladol a grëwyd gan Earthfall a Theatr CHOREA o Wlad Pŵyl. Yn gyfuniad o ddwy estheteg – a ffyrdd o weithio – hollol wahanol, mae’r ddau grŵp yn creu iaith ac agwedd artistig newydd, ar y ffin rhwng gwahanol genres ac arddulliau. Mae CHOREA ac Earthfall yn archwilio’r gwrthdrawiad rhwng traddodiadau corawl yr Hen Roeg, cerddoriaeth fyw fodern, coreograffi dinesig, canu corawl corfforol ac ofnau’r byd modern. Mae’r perfformiad yn gyfuniad radical o elfennau a addaswyd o gomedi Aristophanes, “Yr Adar”. Perfformiwyd y sioe yn Ewrop bob blwyddyn ers 2005, yn ogystal ag yn Rwsia yn 2011; hwn oedd y tro cyntaf iddi gael ei pherfformio yn India.
Soniodd Tomasz Rodowicz, o CHOREA, a chyd-gyfarwyddwr y darn gyda Jessica Cohen a Jim Ennis o Earthfall, am berthnasedd y darn heddiw:
“Rydym wedi ceisio ateb y cwestiwn: beth sy’n weddill o ddrama Aristophanes, ‘Yr Adar’? Beth sy’n weddill o ddiwylliant yr Hen Roeg, a beth sydd gennym yn gyffredin ag ef? Dioddefodd Athen ryfeloedd gwaedlyd yn ystod cyfnod Aristophanes, yn ogystal â chwymp democratiaeth, argyfyngau gwleidyddol, cynllwynion a brwydrau am rym rhwng gwahanol garfanau gwleidyddol. O’r tu ôl i’r waliau tal, edrychai’r duwiau fel twpsod llygredig, a’r bobl fel corachod difreintiedig heb freuddwydion. A yw hi’n bosib creu paradwys ar y ddaear oni bai bod honno’n cael ei hadeiladu y tu ôl i ffensys o wifren bigog? A yw pob gweledigaeth ar gyfer iachau’r byd yn datblygu’n arf peryglus pan gaiff ei roi ar waith? Yn ystod y ddrama – a berfformir yn ystod cyfnod o argyfwng byd-eang a therfysgaeth – gofynnwn y cwestiynau hyn i Aristophanes ac i eraill.”
Daw’r perfformiad hwn ar ôl cyflwyniadau o The Birds llynedd yn Senedd yr Undeb Ewropeaidd yng Ngwlad Pwyl ac yng Nghanolfan Meyerhold, Moscow.
[RoyalSlider Error] Array ( )
[Youtube_Channel_Gallery feed=”playlist” user=”PLQjpn4LcaBRFiVndynBWXlCAfjd8RmUOQ” videowidth=”775″ ratio=”16×9″ theme=”dark” color=”white” autoplay=”0″ rel=”0″ showinfo=”0″ maxitems=”16″ thumbwidth=”258″ thumbratio=”16×9″ thumbcolumns=”3″ title=”1″ description=”0″ thumbnail_alignment=”top” descriptionwordsnumber=”6″ link=”1″ link_window=”1″]