Mae Earthfall, Coreo Cymru a chwmni 4π Productions (yr “Urban Reaction Research Lab” gynt) wedi cynhyrchu ffilm 360° o’r enw Pal O’ Me heart, yn rhan o brosiect y Dôm Dawns, a gyflwynwyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Caeredin 2013. Dangoswyd Pal O’ Me Heart wedi hynny ym Mhlanetariwm Morrison, San Fransisco UDA (Ebrill 2014) ac yna yng Ngŵyl Gelfyddydau Macau yn Tsieina (Mai 2014).
Mae Pal o’ Me Heart yn adrodd hanes cyfarwydd dau fachgen Gwyddelig, yn ystod Gwrthryfel y Pasg. Cafodd yr addasiad hwn ei ffilmio ar leoliad ar arfordir anghysbell Sir Benfro â’r ddau dawnsiwr, Daniel Connor a Murilo Leite D’Imperio (At Swim Two Boys), yn perfformio yn y dŵr ac ar y traeth. Crëwyd coreograffi y darn, ac fe’i cyfarwyddwyd hefyd, gan Jessica Cohen a Jim Ennis. Y DOP oedd Justin Duval a’r Golygydd oedd Manuel Pestana.
Mae’r Dôm Dawns yn sinema 360° symudol sy’n pylu’r ffiniau rhwng symudiad, technoleg ddigidol a ffilm. Mae’n lapio cyflwyniadau dawns o amgylch y gwyliwr er mwyn creu profiad cwmpasol gwirioneddol unigryw. Bydd yn teithio ledled Cymru, diolch i gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Taith Dôm Dawns 2014 yn cynnwys dau gynhyrchiad ychwanegol, The Sublime, gan Theatr Ddawns Harnish Lacey, sydd yn ddilyniant safle-benodol o parkour a breakdance, a The Beautiful, gan TaikaBox – taith fetaffisegol drwy rai o dirweddau De Cymru, sydd hefyd yn cynnwys dawnsio i herio disgyrchiant gan Laura Moy.
Yr haf hwn, bydd y Dôm Dawns yn mynd ar daith ledled Cymru:
5 & 6 Gorffennaf, Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru, yn rhan o ŵyl Big Dance
25 a 26 Gorffennaf, Harlech. Theatr Harlech.
1 a 2 Awst, Aberystwyth, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth
5, 6 a 7 Medi, Portmeirion, rhan o Ŵyl Rhif 6
8 Tachwedd, Casnewydd, Canolfan Gelfyddydau Glan yr Afon.
“Bydd y rhaglen unigryw hon yn gwthio ffiniau technoleg ddigidol a dawns gyfoes fel ei gilydd. Trwy ddefnyddio dôm cludadwy, mae Coreo Cymru ar y cyd â 4π Productions ac Earthfall, yn cyflwyno ffordd newydd o ddangos gweithiau dawns gyfoes i’r cyhoedd.”
Carole Blade, Cynhyrchydd Creadigol ar gyfer Dawns yng Nghymru.
Cynhyrchwyd gan: Carole Blade / Coreo Cymry, 4π Productions a Stephan Stockton MBE / Earthfall
Cyfarwyddwyr: Jessica Cohen a Jim Ennis
Dawnswyr: Daniel Connor a Murilo Leite D’Imperio
Delweddau: Justin Duval
Golygu ac Effeithiau Gweledol: Manuel Pestana
Cerddoriaeth: Frank Naughton a Sion Orgon.
Cyfansoddi ychwanegol: Felix Otaola
Tros-lais: Jamie O’Neill
Technegydd Delweddu Digidol: Keefa Chan
Camerâu Cynorthwyol: Steven Owen, Tomasz Ostroga
Delweddau Treigl Amser: Matt Wright
Recordio Sain ar Leoliad: Felix Otaola & Tom Raybould
Dylunio Set: Gerald Tyler
Grip: Mathew Kistenmacher
Cynorthwywyr Cynhyrchu: Gabriella Fuhr & Dave Garner
Technegydd Stiwdio: Steve Vearncombe
Gyda chefnogaeth hael: Chapman UK, Dynamic Perception, ARRI Llundain, Emotimo, Techniquest, Stiwdios Robbins Lane, Canolfan Hamdden David Lloyd.