Mae Earthfall bellach yn cynnig gweithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaol (DPP) RHAD AC AM DDIM sy’n addas ar gyfer y rheiny a hoffai archwilio syniadau, dulliau ac arddulliau newydd a’r rheiny sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau corfforol, creadigol a choreograffig unigol
Dyddiadau: Dydd Iau 26 Mehefin, dydd Iau 3 Gorffennaf, dydd Iau 10 Gorffennaf, dydd Iau 17 Gorffennaf
Amser: 10:00-13:00
Lleoliad: Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd
Addas i weithwyr proffesiynol byd dawns, dawnswyr, graddedigion ac israddedigion dawns ar eu blwyddyn olaf
Dosbarthiadau: Nod y Dosbarth Datblygiad Proffesiynol Parhaol (DPP) hwn yw datblygu eich proffesiynoldeb personol a datblygu eich gyrfa yn y celfyddydau perfformio.
Fe gewch chi gyfle i archwilio arddulliau symud unigryw Earthfall trwy gyfrwng gwaith cyswllt, gwaith byrfyfyr, gwaith partner ac astudiaethau creadigol; fe gewch chi gyfle i archwilio eich creadigrwydd eich hun yng nghyd-destun repertoire a methodolegau Earthfall a bydd yna gyfle hefyd i drafod, archwilio a hybu sawl agwedd ar eich gyrfa gyda chymorth ein tiwtoriaid proffesiynol a phrofiadol. Mae Datblygiad Proffesiynol Parhaol yn fodd o ddatblygu a dyfnhau eich gwybodaeth ac o ddysgu cyrraedd eich llawn botensial gyrfaol.
I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle ar y cwrs, cysylltwch â:
Helen Di Duca
Swyddog Addysg a Cyfranogiad
02920 221 314
education@earthfall.org.uk
DALIER SYLW: Dim ond nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael ar gyfer pob gweithdy. O’r herwydd byddwn yn dyrannu llefydd ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu. Dilynwch ni ar Facebook i gael y newyddion diweddaraf.
Dyddiad: Dydd Mercher 5 Mawrth
Dydd Mercher 12 Mawrth
Dydd Mercher 19 Mawrth
Dydd Mercher 26 Mawrth
Amser: 10am tan 1pm
Lleoliad: Y Stiwdio Ddawns, Canolfan Gelfyddydau The Gate, Stryd Keppoch, Caerdydd CF24 3JW
Addasrwydd: Gweithwyr proffesiynol byd dawns, ymarferwyr dawns, graddedigion ac israddedigion dawns ar eu blwyddyn olaf
Dosbarthiadau: Nod y Dosbarth Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) hwn yw datblygu eich proffesiynoldeb personol a datblygu eich gyrfa yn y celfyddydau perfformio.
Mae Earthfall yn cynnig gweithdai DPP RHAD AC AM DDIM sydd yn addas ar gyfer pob un sy’n ymddiddori mewn archwilio syniadau, dulliau ac arddulliau newydd a’r rheiny sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau corfforol, creadigol a choreograffig unigol.
Fe gewch chi gyfle i archwilio arddulliau symud unigryw Earthfall trwy gyfrwng gwaith cyswllt, gwaith byrfyfyr, gwaith partner ac astudiaethau creadigol; fe gewch chi gyfle i archwilio eich creadigrwydd eich hun yng nghyd-destun repertoire a methodolegau Earthfall a bydd yna gyfle hefyd i drafod, archwilio a chadarnhau sawl agwedd ar eich gyrfa gyda’n tiwtoriaid proffesiynol, profiadol.
Mae Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn fodd o ddatblygu a dyfnhau eich gwybodaeth ac o ddysgu sut i gyrraedd eich llawn botensial gyrfaol.
I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle ar y cwrs, cysylltwch â:
Helen Di Duca, Swyddog Addysg a Chyfranogiad (t) 02920 221 314 (e) education@earthfall.org.uk
DALIER SYLW: Dim ond 18 o lefydd fydd ar gael ar gyfer pob gweithdy. O’r herwydd byddwn yn dyrannu llefydd ar sail y cyntaf i’r feli gaiff falu.
Yn ystod clyweliad, rydych chi ar y llwyfan yn barhaol – dangoswch eich brwdfrydedd bob amser
Cyfarwyddwr Artistig Earthfall, Jess Cohen
Daeth myfyrwyr dawns y drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd i ganolfan gelfyddydau Chapter yr wythnos hon i weithio gyda’r dawnsiwr Alex Marshall Parsons, y Cyfarwyddwr Artistig, Jess Cohen, a Rheolwr Cyffredinol Earthfall, Stephan Stockton, ac i ddysgu rai o hanfodion y broses gyf-weld ar gyfer cynyrchiadau dawns.
Ar ôl sesiwn fer gyda Stephan Stockton yn canolbwyntio ar yr hyn y dylid ei ddisgwyl mewn clyweliad, ynghyd â hawliau a chyfrifoldebau’r cyfranogwr, ac elfennau ffurfiol y broses, arweiniodd Alex Marshall Parsons, o’r sioe Chelsea Hotel sesiwn gynhesu a chyflwyno ambell symudiad o goreograffi Chelsea Hotel.
Dysgodd y grŵp ambell symudiad penodol o’r repertoire, yna cawsant gyfle i ddyfeisio eu deunydd eu hunain cyn cyflwyno’r gwaith hwnnw i’r panel fel petaent yn cymryd rhan mewn clyweliad go iawn. Wedi hynny, cafodd y grŵp adborth a gwybodaeth am eu gwaith ac awgrymiadau ynglŷn â sut i wneud argraff yn ystod clyweliad.
Dysgais lawer amdanaf fy hun ac am fy nghorff a sut dw i’n ymateb mewn gwahanol sefyllfaoedd. Dysgais lawer hefyd am yr hyn y dylwn ei ddisgwyl mewn clyweliad proffesiynol.
Myfyriwr Dawns 3edd flwyddyn, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Soniodd y Cyfarwyddwr Artistig, Jess Cohen, am yr hyn y mae Earthfall yn chwilio amdano yn ystod clyweliadau a sut y gall y gofynion hynny amrywio o gwmni i gwmni. Rhoddodd nifer o awgrymiadau ymarferol a defnyddiol er mwyn helpu’r grŵp i baratoi ar gyfer eu bywydau proffesiynol wedi iddyn nhw raddio.