Dynamic Dance Music and Film

Earthfall

Cefnogi

Mae Earthfall yn elusen gofrestredig (rhif 1048233) ac yn un o Sefydliadau Cyllid Refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru.  Er mwyn i Earthfall allu ffynnu a datblygu, rydym yn dibynnu ar haelioni ein Cyllidwyr sy’n ein galluogi i barhau i gynhyrchu ac i fynd â’n Cynyrchiadau unigryw ar daith, ac i gynnal hefyd ein Rhaglen Addysg a Chyfranogi.

Mae Earthfall yn derbyn cefnogaeth:

Rydym yn credu bod arallgyfeirio ein ffynonellau incwm a sicrhau ffrydiau incwm cymysg yn fodd o sicrhau sefydlogrwydd a chefnogaeth ar gyfer y cwmni yn y presennol ac yn y dyfodol.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am wahanol ffyrdd o’n cefnogi ni ardudalen Rhoi.

Mae eich cefnogaeth yn hanfodol i Earthfall, pa un ai ydych yn ariannu prosiect, yn gwneud cyfraniad fel unigolyn neu yn ein cefnogi mewn ffyrdd eraill. Gall llythyr o gefnogaeth neu e-bost i ddweud cymaint yr ydych wedi mwynhau cynhyrchiad neu weithdy helpu i wneud gwahaniaeth.

Rydym yn wirioneddol ddiolchgar ac yn gwybod na fyddem yn gallu parhau i wneud y gwaith a wnawn heb y gefnogaeth honno.