Mae Earthfall yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth a dderbyniwyd gennym dros y blynyddoedd gan ein noddwyr. Fodd bynnag, er mwyn i ni allu parhau i fynd â’n cynyrchiadau blaengar ar daith ledled y DG, ac er mwyn i ni barhau i gyflwyno ein Rhaglen Addysg a Chyfranogiad hynod boblogaidd, rydym yn dibynnu ar gymorth ychwanegol gennych chi. Os gallwch chi wneud cyfraniad – waeth pa mor fychan – bydd y rhodd honno’n gwneud gwahaniaeth mawr i’n gwaith:
Mae yna ddwy ffordd hawdd o gefnogi Earthfall:
(Neu unrhyw swm arall y dymuwch ei roi)
I gael mwy o wybodaeth am roddion, cysylltwch â
David Johnson, Swyddog Datblygu.
(Ff) 029 2022 1314
Hoffai Earthfall ddiolch yn arbennig i bob un o’n cefnogwyr unigol a fu mor hael eu cefnogaeth i waith y cwmni.