Please email education@Earthfall.org.uk to register your interest in our upcoming Professional Development Opportunities. More information to be released soon.
Thank you
Cliciwch fan hyn i lawr-lwytho’r ffurflen gais: Cais Earthfall
E-bostiwch eich ffurflen gais wedi’i chwblhau, ynghyd â CV, at: education@earthfall.org.uk
Mae Earthfall yn cynnig cyfleoedd am brofiad gwaith drwy gydol y flwyddyn i ymgeiswyr 16+ oed sy’n dilyn cyrsiau perthnasol mewn ysgol neu brifysgol, e.e. yn y Celfyddydau Perfformio, Dawns, Drama, Astudiaethau Theatr, Reoli Celfyddydol neu unrhyw bwnc perthnasol arall. Mae’r cyfleoedd hyn ar gael i weithwyr proffesiynol y celfyddydau sy’n awyddus i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau. Byddant yn ddelfrydol ar gyfer perfformwyr sydd eisiau aros ym myd y celfyddydau ond sydd yn awyddus i newid gyrfa.
Mae profiad gwaith ar gael mewn pedair adran: Marchnata, Cyfranogiad, Datblygu a Rheoli. Mae ein cyfnodau profiad gwaith yn cynnig cipolwg ar weithrediadau cwmni teithiol a chyfle i weithio gydag un adran yn benodol neu â phob adran, a thrwy hynny gael arolwg o waith y cwmni. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a’r galw amdanynt yn uchel; oherwydd hynny, gofynnwn i bob ymgeisydd ddangos prawf o’i ddiddordeb mewn Dawns neu Theatr Gorfforol. Dylech gynnwys unrhyw wybodaeth ategol a fydd, yn eich barn chi, yn cryfhau eich cais. Yn anffodus, ni allwn gynnig cyfnodau o brofiad gwaith gyda’r Cyfarwyddwyr Artistig, Dawnswyr y Cwmni neu’r tîmau technegol creadigol ar hyn o bryd. Mae hi’n bosib, serch hynny, y bydd yna gyfle i chi arsylwi ymarferion a’r broses greadigol. Cynhelir pob cyfnod profiad gwaith yn ein swyddfeydd a’n stiwdio yn Nhreganna, Caerdydd, ac ni thelir cyflog i’r ymgeiswyr llwyddiannus.