Ers cychwyn y cwmni, mae Earthfall wedi cyflwyno rhaglen ddawns addysgol o safon uchel. Yn 2008, daeth cyfleoedd ar gyfer Addysg a Chyfranogiad yn rhan o weithgarwch craidd y cwmni.
Galluogi cyfranogiad cyhoeddus trwy gyfrwng rhaglen gynhwysfawr, sensitif a deinamig o Addysg a Chyfranogi.
Mae gan Earthfall enw da am ddarparu Rhaglen Addysg a Chyfranogi amrywiol a datblygedig. Pa un ai ydych chi’n ysgol, yn goleg neu’n brifysgol, yn unigolyn neu’n rhan o grŵp sy’n ymddiddori mewn dawns neu symudiad, gall Earthfall gynnig darpariaeth ar bob lefel. Mae Earthfall yn darparu ar gyfer myfyrwyr sy’n ymddiddori mewn llenyddiaeth, drama, cerddoriaeth, dawns, chwaraeon a’r celfyddydau perfformio, neu ar gyfer y rheiny sydd, yn syml ddigon, yn awyddus i gael profiad o rywbeth newydd a chyffrous.
Yn 2011/12, cafodd Rhaglen Addysg a Chyfranogi Earthfall ei fwynhau gan 4415 o gyfranogwyr ac fe ddarparwyd 113 o weithdai.
“Gwych – arloesol, teimladwy ac wedi’i berfformio’n wych. Mae pobl yn dal i sôn amdano fan hyn dair wythnos wedyn!” Coleg y Drindod, Sir Gaerfyrddin.
Oherwydd natur gorfforol y gweithdai, mae tîm dysgu Earthfall yn cynnwys dau diwtor. Mae hyn yn sicrhau dyletswydd o ofal i’r cyfranogwyr ac i’r tiwtoriaid, ac yn sicrhau bod y gweithdai yn cyflawni gwaith ymarferol mewn modd clir a diogel.
Mae gan Earthfall berthynas broffesiynol agos â Phrifysgol Bath Spa. Mae aelodau o staff Earthfall yn darlithio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Brifysgol Caerdydd, ac ym Mhrifysgol Bath Spa.
‘Mwynhaodd pob un o’r disgyblion steil y gwaith a gyflwynwyd. Roedd yr egni a’r brwdfrydedd yn ddi-fai” Ysgol Uwchradd Tredelerch, Caerdydd
Gweler delweddau o waith cyfranogi blaenorol fan hyn .