Rydym yn cynnig cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad lefel uwch i Brifysgolion a Sefydliadau Addysg Uwch. Mae aelodau o’r cwmni a’n tîm o diwtoriaid yn creu amgylchedd proffesiynol sy’n rhoi cipolwg i gyfranogwyr ar ddiwrnod ym mywyd dawnsiwr proffesiynol. Anogir cyfranogwyr i gymryd rhan mewn tasgau a fydd yn estyn ac yn hybu eu datblygiad proffesiynol. Gall y cyfleoedd hyn gael eu cyflwyno fel gweithdai unigol a modiwlau y gellir eu cysylltu â modiwlau craidd eraill. Neu gall y cyflwyniadau fod yn rhan o ddatblygiad proffesiynol neu gael eu cyflwyno ar y cyd â’n cynhyrchiad cyfredol ac archwilio’r themâu a’r dyfeisiau coreograffig a ddefnyddir yn ystod y broses ymarfer.
Mae’r holl brofiadau Addysg a Chyfranogiad yn cael eu teilwra’n benodol trwy gyfrwng deialog agored rhwng y cwmni a’r sefydliad sy’n cynnal y gweithdy, er mwyn sicrhau bod y cyfranogwyr yn gallu manteisio ar brofiadau creadigol o’r safon uchaf.
• Gweithdai hanner diwrnod a diwrnodau cyfain.
• Seminarau a darlithoedd arddangosiadol.
• Diwrnodau hyfforddi INSET a gweithdai datblygiad proffesiynol
• Cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith
• Cyfnodau preswyl 2+ diwrnod.
• Trafodaethau ar ôl perfformiadau.
Yn ogystal â’n gweithdai dawns a theatr gorfforol arferol, gall y gweithdai gynnwys cerddoriaeth fyw, fideo a thafluniadau, testun, hyfforddiant llais a symudiad, a gwaith cymeriadu. Mae cyfnodau preswyl hefyd yn rhoi cyfle i grwpiau greu a chyflwyno perfformiadau mewnol a fydd ar agor i’r cyhoedd. Mae enghreifftiau o weithdai a chyfnodau preswyl Earthfall i’w gweld yn yr adran ‘Cyfryngau‘.
Mae pob un o’n gweithdai yn darparu’r canlynol i gyfranogwyr:
• Sgiliau allweddol a throsglwyddadwy.
• Gwerthusiadau gan unigolyn a chymheiriaid
• Datblygu nodweddion unigol; hyder a hunan-ddisgyblaeth
• Dulliau datblygedig ac aml-ddisgyblaethol o feddwl a gweithredu’n greadigol
• Dealltwriaeth o iechyd a hunan-lles trwy gymryd rhan
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau symudiad.
• Dyfeisio, rhannu a dadansoddi.
Gweler delweddau o’n gweithdai i ysgolion fan hyn.
I gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd i Brifysgolion a sefydliadau Addysg Uwch, cysylltwch â:
Helen Di Duca, Swyddog Addysg a Chyfranogiad
(E): education@earthfall.org.uk
(Ff): 02920 221314