Mae Earthfall yn gweithio ar y cyd â grwpiau, ysgolion, colegau, prifysgolion neu glybiau gwahanol i greu a chyflwyno rhaglenni dawns sy’n ateb anghenion penodol pob sefydliad. Arweiniodd hyn at gynnal prosiectau mewn meysydd parcio, siopau, gorsafoedd trên, amgueddfeydd ac adeiladau’r Llywodraeth – ac mae pob un yn arwain fel arfer at berfformiad cyhoeddus. Mae Earthfall hefyd yn cynnig gweithdai mwy traddodiadol sy’n arwain at berfformiadau theatrig.
Mae prosiectau pwrpasol Earthfall yn cynnig y cyfle i weithio mewn gwahanol ddisgyblaethau – ee cyfle i weithio â cherddoriaeth yn ystod cyfnod preswyl dawns (2+ diwrnod). Mae hyn yn fodd o sicrhau profiadau addysgol pellach – gweithio gyda cherddorion neu weithio gydag artistiaid gweledol a beirdd, gwahanol genedlaethau neu dîmau chwaraeon. Boed y sesiwn yn weithdy unigol neu’n gyfnod preswyl wythnos o hyd, gallwn weithio gyda chi i gynllunio prosiect sy’n seiliedig ar anghenion, diddordebau neu ffocws penodol y cwricwlwm.
Gallwch weld delweddau o brosiectau a chyfnodau preswyl yn adran ‘Lluniau Cyfranogwyr‘.
I drafod eich syniadau am brosiect pwrpasol ar gyfer eich sefydliad chi, cysylltwch â Helen Di Duca ar education@earthfall.org.uk