Dynamic Dance Music and Film

Earthfall

Ysgolion

Beth mae Earthfall yn ei gynnig?

Mae Earthfall yn cynnig cyfleoedd ar gyfer cyfranogi i Ysgolion Uwchradd ac Addysg Bellach. Mae’r cyfleoedd hyn yn weithdai unigol sy’n ategu’r maes llafur craidd neu’n weithdai a gynhelir ar y cyd â’n cynhyrchiad cyfredol; maent yn archwilio’r themâu a’r dyfeisiadau coreograffig a ddefnyddir yn ystod y broses ymarfer.

Mae’r holl brofiadau Addysg a Chyfranogiad yn cael eu teilwra’n benodol trwy gyfrwng deialog agored rhwng y cwmni a’r sefydliad sy’n cynnal y gweithdy, er mwyn sicrhau bod y cyfranogwyr yn gallu manteisio ar brofiadau creadigol o’r safon uchaf.

• Gweithdai hanner diwrnod a diwrnodau cyfain

Cyfnodau preswyl 2+ diwrnod

Cyfleoedd am brofiad gwaith

• Trafodaethau ar ôl perfformiadau

(Mae Diwrnodau Hyfforddiant Mewn Swydd hefyd ar gael i athrawon.)

Yn ogystal â’n gweithdai dawns a theatr gorfforol arferol, gall y gweithdai gynnwys cerddoriaeth fyw, fideo a thafluniadau, testun, hyfforddiant llais a symudiad, a gwaith cymeriadu. Mae cyfnodau preswyl hefyd yn rhoi cyfle i grwpiau greu a chyflwyno perfformiadau mewnol a fydd ar agor i’r cyhoedd.

Canlyniadau

Mae pob un o’n gweithdai yn darparu’r canlynol i gyfranogwyr:

• Sgiliau allweddol a throsglwyddadwy

• Gwerthusiadau gan unigolion a chymheiriaid

• Datblygu nodweddion unigol; hyder a hunan-ddisgyblaeth

• Dulliau datblygedig ac aml-ddisgyblaethol o feddwl a gweithredu’n greadigol

• Dealltwriaeth o iechyd a lles trwy gymryd rhan

• Gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau symud

• Dyfeisio a rhannu a dadansoddi.

Gweler delweddau o’n gweithdai i ysgolion fan hyn.

Back To Top »