Cyffroi, ysbrydoli a phryfocio cynulleidfaoedd trwy greu a theithio perfformiadau theatr ddawns gwreiddiol, aml-gyfryngol, o safon uchel. Galluogi cyfranogiad cyhoeddus trwy gyfrwng Rhaglen Addysg a Chyfranogi gynhwysfawr, sensitif a deinamig.
Ffurfiwyd Earthfall ym 1989 gan Jessica Cohen a Jim Ennis gyda pholisi o uno coreograffi radical â cherddoriaeth fyw a delweddau grymus.
Buan yr enillodd y cwmni enw da fel enghraifft gyda’r gloywaf o theatr ddawns arloesol. Mae gwaith Earthfall, sy’n seiliedig ar bynciau penodol, yn ymwneud â chwilio am onestrwydd personol ac angerdd ac economi mewn perfformiad corfforol, gyda’r nod o gynhyrchu gwaith o sylwedd. Mae Earthfall wedi perfformio ledled y byd mewn nifer o wyliau mawrion ac wedi ymddangos ar ddarllediadau teledu a radio niferus.
Derbyniodd y cwmni nifer o wobrau am berfformiadau byw a gwaith ffilm, gan gynnwys gwobr BAFTA Cymru am y Ffilm Fer Orau ar gyfer ‘Too Old to Dream’. Enwebwyd Earthfall am wobr Ffilm Fer Orau BAFTA Cymru yn 2010 ar gyfer ‘Gravitas Postcards’.
Mae Earthfall yn derbyn cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Adran Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae Earthfall yn aelod o’r Cyngor Theatr Annibynnol, Dance UK a Chymdeithas Celfyddydau Perfformio Cymru. Mae gan Earthfall berthynas broffesiynol â Phrifysgol Bath Spa. Earthfall are a resident Company of Chapter Arts Centre.
Mae hawlfraint yr holl ffotograffau ar y safle hwn yn eiddo i ©Earthfall ©Hugo Glendinning neu ©Julian Castaldi.
Mae hawlfraint yr holl ddarnau ffilm a sain yn eiddo i ©Earthfall.
Mae Earthfall yn elusen gofrestredig (Rhif 1048233) ac yn un o Sefydliadau Refeniw Cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru.
Earthfall is a company limited by guarantee (No. 2919355)
Mae Earthfall wedi cofrestru â’r gwasanaeth TAW (rhif 648 3417 22).
Nid Earthfall yn gyfrifol am gynnwys o gwefannau.