Adran ‘Mwy‘ yw’r rhan o’n gwefan sy’n cyflwyno holl weithgarwch arall Earthfall ar wahân i’r cynyrchiadau teithiol a’r rhaglen Addysg a Chyfranogi.
Mae hyn yn cynnwys prosiectau ffilm, digwyddiadau, gwyliau, arddangosfeydd, dangosiadau, prosiectau a phartneriaethau.
Bu ffilm yn rhan bwysig o ethos Earthfall erioed ac rydym wedi creu nifer o ffilmiau byrion. Dyfarnwyd gwobr BAFTA Cymru am y Ffilm Fer Orau i Earthfall am y ffilm ‘Too Old to Dream’ ac yn 2010 enwebwyd y cwmni am yr un wobr am ‘Gravitas – Postcards‘.
Mae Earthfall wedi perfformio mewn gwyliau ledled y byd – o Ŵyl Gelfyddydol Ryngwladol New World yn yr Unol Daleithiau i Ŵyl Hawliau Dynol a Ffoaduriaid Leiden, yr Iseldiroedd, Mulheim Festival yr Almaen, Eurodanse yn Ffrainc, a Bharat Rang Mahotsav yn India. Mae Earthfall hefyd yn darparu gweithgareddau a digwyddiadau fel Dangosiadau Ffilm a sgyrsiau.
Bu Earthfall yn gweithio gyda’i bartner yng Ngwlad Pwyl, Theatr Chorea, ers 2005 ac fe gafodd eu cyd-gynhyrchiad After the Birds ei berfformio’n ddiweddar ym Moscow, Rwsia a Delhi, India.
Yn ddiweddar, ffilmiodd Earthfall waith o’r enw ‘ Pal O’ My Heart‘, gwaith 360 gradd ar gyfer Coreo Cymru, y Dôm Dawns a Labordy Ymchwil Ymateb Dinesig.
Mae Earthfall hefyd yn darparu cefnogaeth i nifer o artistiaid annibynnol, gan gynnwys Beth Powlesland, Eddie Ladd, Gerald Tyler, Caroline Sabine a National Theatre Wales.