Drwy gydol 2014, bu Earthfall yn cynnal sesiynau DPP i ddawnswyr â diddordeb ganddynt mewn archwilio syniadau, dulliau ac arddulliau newydd a datblygu eu sgiliau corfforol, creadigol a choreograffig unigol.
Cynhaliwyd sesiynau DPP cyntaf 2014 yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Gate, ar y 5ed, y 12fed, y 19eg a’r 26ain o Fawrth. Cyflwynwyd y dosbarthiadau wythnosol 3 awr o hyd gan diwtoriaid Earthfall, Mike Williams, Hannah Darby a Beth Powlesland.
Dosbarthiadau DPP Caerdydd 2014 @Canolfan Gelfyddydau Chapter.
Cynhaliwyd yr ail gyfres o sesiynau yn ystod yr haf, ar y 26ain o Fehefin, a’r 3ydd, y 10fed a’r 17eg o Orffennaf, yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter.
Arweiniwyd y sesiynau gan Gyd-gyfarwyddwr Artistig Earthfall, Jessica Cohen, a’r tiwtoriaid, Mike Williams, Sarah Rogers a Jennifer Johannesson. Nhw oedd yn gyfrifol am ddatblygu fformat y sesiynau blaenorol.
Daeth y sesiynau DPP i uchafbwynt â’n penwythnos datblygiad proffesiynol parhaol dwys rhad ac am ddim. Cynhaliwyd y digwyddiad ar yr 16eg a’r 17eg o Awst, 2014 yng nghanolfan Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Arweiniwyd y sesiynau gan y Cyfarwyddwr Artistig, Jessica Cohen, yng nghwmni perfformwyr Earthfall, Alex Marshall Parsons (Chelsea Hotel) a Lara Ward (Chelsea Hotel, The Factory, Gig, Gravitas).
Roedd y digwyddiad wedi’i fwriadu ar gyfer pobl a oedd yn awyddus i archwilio syniadau, dulliau ac arddulliau newydd ac i ddatblygu eu sgiliau corfforol, creadigol a choreograffig unigol.
Yn ystod y penwythnos, archwiliodd y cyfranogwyr eu creadigrwydd eu hunain yng nghyd-destun repertoire a methodoleg Earthfall, gan ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymarferol.
Daeth y penwythnos i ben â chyflwyniad preifat o waith o flaen cynulleidfa wadd.
Cyflwynwyd y sesiynau DPP hyn gyda chymorth cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn ogystal â’n partneriaid, Canolfan Gelfyddydau’r Gate, Chapter, Caerdydd, a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Os hoffech chi dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd DPP pellach yn y dyfodol, gallwch gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio fan hyn.